fbpx

Rydym yn cydymffurfio gyda chanllawiau diogelwch y diwydiant bwyd ac fe gaiff ein warysau eu harchwilio yn fewnol ac yn allanol i sicrhau ein bod yn cydymffurfio. I weld yr holl fanylion am sut rydym yn cydymffurfio gyda’r canllawiau diogelwch bwyd, gwelwch wefan cenedlaethol Fareshare

Mae ein system rheoli stoc yn fodd inni olrhain pob eitem bwyd rydym ni’n ei dderbyn ac yn ei ail-ddosbarthu. Pe bai digwyddiad annhebygol lle gaiff cynnyrch ei adalw, fe allwn ni gynnal y broses hon ar eich rhan chi.

Gallwn dderbyn eich bwyd dros ben chi sy’n bodloni’r canlynol:

  • mae dyddiad y cynnyrch cyn y dyddiad defnyddio erbyn neu gorau cyn
  • mae’r cynnyrch wedi’i orchuddio neu ei becynnu’n briodol
  • mae’n cydymffurfio gyda’r holl ddeddfwriaethau diogelwch bwyd gan gynnwys y Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, Rheoliadau Hylendid Bwyd (Lloegr) 2006 a Rheoliadau (EC) 852/2004 ar Hylendid Bwydydd
  • mae ganddo restr gyflawn o’r cynhwysion

Fe gaiff yr holl fwyd rydym ni’n ei dderbyn ei ail-ddosbarthu i elusennau aelod, ysgolion a grwpiau cymunedol. Rydym yn gwirio pob un i sicrhau ei bod yn bodloni ein gofynion o ran diogelwch bwyd a hylendid.

Diogelwch Bwyd

Rydym yn cydymffurfio gyda chanllawiau diogelwch y diwydiant bwyd ac fe gaiff ein warysau eu harchwilio yn fewnol ac yn allanol i sicrhau ein

Ein Partneriaid

Hoffai FareShare Cymru feithrin partneriaethau newydd gyda Busnesau Bwyd ledled Cymru, i sicrhau na chaiff unrhyw fwyd bwytadwy ei wastraffu. Hoffem gydweithio gyda gwneuthurwyr,

Cyfrannu Bwyd

Mae sawl rheswm am fwyd dros ben, er enghraifft: gormod o gyflenwad, wedi archebu gormod, stoc dymhorol sydd wedi darfod, nid ydyw’n cydymffurfio gyda’r