Newyddion: Rhoddion Bwyd Archives - FareShare Cymru

FareShare Cymru a Thîm grŵp OV Group yn uno am Basg Hapus
Hoffai FareShare ddiolch yn fawr i’n cyfeillion yng Ngrŵp OV am eu rhodd anhygoel o 10,000 o wyau Pasg.  Rydyn ni’n gwybod eu bod wedi cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ein grwpiau cymunedol ac aelodau’r elusen yn y cyfnod yn arwain at benwythnos y Pasg.

Yn eitem foethus i nifer, roedd rhodd Grŵp OV o wyau siocled yn golygu bod ein haelodau yn gallu mwynhau rhywbeth neis dros benwythnos Gŵyl y Banc, rhywbeth fydden nhw efallai heb ei gael heb y rhodd hwn.

Yn sôn am eu penderfyniad i gyfrannu, meddai Cherry Blumberg – Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp OV:

Caiff yr wyau siocled eu cynhyrchu yn ein safle yn St. Ives, lle mae’n tîm gwych wedi cynhyrchu dros 1.1 miliwn o wyau!!   Yma yn OV, rydym yn credu yn ein gwerthoedd, ac un o’n pedwar o brif werthoedd yw “rydym yn gofalu” sy’n ein harwain ni yn y busnes.  Pan welon ni gyfle i gefnogi’n cymunedau dros y Pasg gyda’r rhodd hwn i FareShare, roedden ni’n gwybod mai dyma oedd y peth iawn i wneud, heb os. Os gall 10,000 o wyau Pasg gynnig 10,000 o bethau bach neis, ac ychydig o hapusrwydd (10,000 o wenau) i’r rheiny syn ei chael hin anodd, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn, yna mae hyn yn gwneud OV yn falch iawn.
Cherry Blumberg – Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp OV

Gan ddiolch i Grŵp OV am y rhodd, dywedodd Simon Stranks – Cydlynydd Cyrchu Bwyd FareShare Cymru:

Mae FareShare Cymru yn hynod ddiolchgar pryd bynnag mae partner yn y diwydiant bwyd yn camu ymlaen ac yn sicrhau bod bwyd dros ben yn mynd i bobl pryd bynnag fo’n bosib.  Rydyn ni’n gwybod bod eitemau fel wyau Pasg yn foethusrwydd gall rhai o’n haelodau ddim ei fforddio, felly rydyn ni’n gwybod bod y rhodd hwn wedi gallu rhoi gwên ar wynebu cymaint o bobl.  Cafodd yr wyau hyn eu dosbarthu ymysg ein grwpiau cymunedol ac aelodau’r elusen, felly rydym yn diolch i Grŵp OV am fynd y filltir ychwanegol drwy gyfrannu swm enfawr o wyau siocled o ansawdd uchel.
Simon Stranks  – Cydlynydd Cyrchu Bwyd FareShare Cymru

Os ydy’ch busnes chi’n cytuno bod bwyd dros ben yn well yn mynd  i bobl yn hytrach na mynd yn wastraff, a’ch bod chi eisiau rhoi bwyd dros ben i FareShare Cymru, cysylltwch â  Simon@fareshare.cymru

The post FareShare Cymru a Thîm grŵp OV Group yn uno am Basg Hapus appeared first on FareShare Cymru.

Banc Organics yn cyfrannu bwyd Organig dros ben i FareShare Cymru
Mae Banc Organics yn gynllun bwyd sydd wedi’i gefnogi yn gymunedol. Dechreuodd y cynllun, sy’n tyfu cynnyrch organig yn Sir Gâr, yn ystod gaeaf 2009. Caiff y cynnyrch ei ddosbarthu’n lleol, ac mae wedi tyfu o grŵp bach o amaturiaid brwdfrydig, i sefydliad proffesiynol sy’n tyfu. Yn ystod 2020, ail-lansiodd Banc Organics fel Cwmni Buddiannau Cymunedol, gan alluogi’u cwsmeriaid i chwarae mwy o ran yn sut mae’r cwmni’n cael ei redeg.

Sefydliad sydd â chynaliadwyedd wrth ei wraidd yw Banc Organics, ac mae am sicrhau bod y bwyd y maent yn ei dyfu yn cael ei atal rhag mynd i wastraff lle bynnag y bo modd.  Fe gwrddon ni yn FareShare Cymru â Banc Organics gyntaf mewn digwyddiad cymunedol, gan ddechrau sgwrs am ddefnyddio’n Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan  er mwyn ei wneud yn gost-niwtral i gyfrannu eu cynnyrch dros ben.

Gan ddefnyddio’r gronfa, roedd Banc Organics yn medru bodloni costau cynaeafu a phecynnu dros 165kg o ffyn ysgewyll Brwsel.  Cafodd y rhain wedyn eu hail-ddosbarthu ymysg ein rhwydwaith o grwpiau cymunedol ac elusennau gan ddarparu mynediad at ffynhonnell llawn maeth o fitaminau a mineralau.

Wrth drafod y penderfyniad i gyfrannu eu cynnyrch dros ben i FareShare Cymru, dywedodd  Alex Nicholas, tyfwr a Chyfarwyddwr Banc Organics:

Mae Banc Organics yn tyfu ffrwythau a llysiau iachus a maethlon, ac mae gennym ddiddordeb arbennig yn sicrhau bod ein holl dyfu’n digwydd o fewn safonau moesegol i gynhyrchu bwyd da a ffres. Rydyn ni am sicrhau bod unrhyw fwyd na fyddai’n fasnachol hyfyw, ond sydd yn dal i fod yn hollol ddiogel i’w fwyta, yn ffeindio cartref da. Gyda faint o ysgewyll Brwsel oedd ar gael gennym ni, a’r ffaith ein bod yn gwmni prysur, fe fodlonodd Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan ein costau llafur am gasglu a phacio’r bwyd dros ben. Hefyd, doedd gennym ni ddim trafnidiaeth i’w cludo i FareShare, felly fe drefnon nhw gasglu’r cynnyrch o’n fferm.
ALEX NICHOLAS, , tyfwr a Chyfarwyddwr Banc Organics

Os hoffech chi drafod cyfrannu bwyd dros ben i FareShare Cymru, cysylltwch â Food@Fareshare.cymru

The post Banc Organics yn cyfrannu bwyd Organig dros ben i FareShare Cymru appeared first on FareShare Cymru.

Puffin Produce: Gwneud daioni gyda Chronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan
Hoffai FareShare Cymru ddiolch yn fawr iawn i’n partneriaid anhygoel yn Puffin Produce.  Gan ddefnyddio’n cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan, llwyddon ni i’w wneud yn garbon-niwtral iddyn nhw gyfrannu dros 30,000kg o flodfresych dros ben fyddai fel arall wedi mynd yn wastraff.

Pan mae staff wedi tyfu a meithrin cnwd, does yna ddim byd yn waeth iddyn nhw na gweld bwyd yn mynd yn wastraff.  Yn hytrach na’u gadael nhw mewn cae, penderfynon ni y byddai’n syniad da eu cyfrannu i’r fenter wych hon gan FareShare.  Mae menter Bwyd Dros ben ag Amcan yn cynnig datrysiad i broblem gwastraff bwyd, gan ein galluogi ni i dalu’n costau medi a llafur am wneud y cyfraniad, fel arall ni fyddai’n ariannol hyfyw i ni wneud.
Matthew Thomas, Rheolwr cyfrif cenedlaethol Puffin Produce

Mae FareShare Cymru yn credu bod bwyd sydd yn fwytadwy bob tro yn well yn cael ei ddefnyddio i fwydo pobl, ac mae Puffin yn cytuno â’r ethos hwn.  Bydd y blodfresych nawr yn cael ei ddosbarthu i bobl fregus yma yng Nghymru a hefyd i’n rhwydwaith cenedlaethol o grwpiau cymunedol ac elusennau.

Yn ystod cyfnod mor ansicr i’r byd, dydy’r cyfle i roi bwyd dros ben i elusen erioed wedi bod yn fwy pwysig.  Mae’r fenter Bwyd Dros Ben ag Amcan yn hawdd i’w gweinyddu ac mae tîm FareShare yn bleser cydweithio â nhw.
Matthew Thomas, Rheolwr cyfrif cenedlaethol Puffin Produce

Pan mae tua 2m o’r 3.6m tunnell o fwyd sy’n cael ei wastraffu bob blwyddyn yn dal i fod yn fwytadwy, mae FareShare eisiau sicrhau nad yw hi byth yn rhatach taflu bwyd da, maethlon i ffwrdd nag yr ydyw i’w roi i bobl mewn angen.

Mae’r Gronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan wedi galluogi cynhyrchwyr, tyfwyr a gwneuthurwyr o bob maint i gyfrannu eu bwyd dros ben bwytadwy.  Gall y gronfa gael ei defnyddio i dalu costau medi, llafur, storio, pecynnu neu gludo bwyd dros ben.

Mae’r rhoddion hyn nid yn unig yn helpu pobl mewn gwir angen, maen nhw hefyd yn helpu ni i gyrraedd targed y cwmni o leihau gwastraff bwyd yn unol â Chytundeb Courtauld 2025.
Matthew Thomas, Rheolwr cyfrif cenedlaethol Puffin Produce

Yn ogystal â bod yn dda i bobl, mae lleihau lefelau gwastraff bwyd eich cwmni yn dda i’r blaned. Gyda’r rhodd o dros 32 tunnell o flodfresych dros ben, mae Puffin Produce wedi defnyddio’r gronfa i rwystro bron i 52 tunnell o CO2 rhag cael ei allyru’n ddi-angen, a dros 49 miliwn litr o ddŵr rhag mynd yn wastraff o’r broses dyfu.

I drafod bwyd dros ben eich busnes, neu os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch drwy gyfrwng   food@fareshare.cymru

The post Puffin Produce: Gwneud daioni gyda Chronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan appeared first on FareShare Cymru.

Llaethdy hynaf Cymru’n cyfrannu drwy roi caws i FareShare Cymru
Mae Hufenfa De Arfon (SCC) wedi bod yn cefnogi FareShare Cymru ers Hydref 2021 gan ddarparu ffynhonnell ardderchog o brotein i’n grwpiau cymunedol ac aelodau elusen.

Hufenfa De Arfon yw cwmni Llaeth Cydweithredol hynaf Cymru, sydd wedi’i berchen gan ffermwyr ers 1938.  Maent yn defnyddio llaeth lleol yn unig i gynhyrchu ystod o fenyn a chaws Cymreig o’r ansawdd uchaf sydd wedi ennill sawl gwobr.

Yn Hufenfa De Arfon  rydyn ni’n mynychu nifer o sioeau masnach a defnyddwyr yn ystod y flwyddyn.  Fel rhan o’r gweithgareddau hyn, yn aml mae gennym arddangosfeydd o gynhyrchion sydd methu ail ymuno â’r gadwyn gyflenwi.  Mae FareShare Cymru yn darparu cyfle ardderchog i ni beidio â gwastraffu’r cynhyrchion hyn, a hefyd rydyn ni’n cefnogi elusennau lleol a’r gymuned ar yr un pryd.
Kirstie Jones, RHEOLWR MARCHNATA, Hufenfa De Arfon

Mae FareShare Cymru yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydyn ni wedi’i derbyn gan Hufenfa De Arfon.  Mae yna wastad groeso cynnes i ffynonellau o brotein o ansawdd da gan ein grwpiau cymunedol ac aelodau elusen, ac yn aml mae caws yn eitem foethus.  Mae SCC yn chwarae rhan allweddol drwy ein helpu ni i ddatrys gwastraff bwyd a newyn ar y cyd.

Mae’r hinsawdd economaidd ar hyn o bryd yn rhoi teuluoedd mewn tlodi bwyd ac ynni ledled Cymru. Fydd hyn yn broblem fwy pan ddaw’r cynnydd o ran pris y cap ynni ym mis Ebrill. Trwy gyfrannu bwyd dros ben i FareShare Cymru, nid yn unig ydyn ni’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd, ond hefyd rydyn ni’n cefnogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf yn y gymuned.
Kirstie Jones, RHEOLWR MARCHNATA, Hufenfa De Arfon

The post Llaethdy hynaf Cymru’n cyfrannu drwy roi caws i FareShare Cymru appeared first on FareShare Cymru.

Danteithion Zorba yn gwneud lles
Mae rhodd cwmni Zorba Delicacies o dros ddwy dunnell a hanner o gawl oer a dipiau eleni wedi bod yn gymaint o gymorth i’r gwaith rydym yn ymgymryd ag e yma yn FareShare Cymru.

Cwmni sydd werth miliynau o bunnoedd yw Zorba Delicacies, sydd wedi’i sefydlu yng Nglyn Ebwy, De Cymru.  Mae’n gwmni sy’n gwneud amrywiaeth o hwmws, dipiau, cawl, prydau pot a brechdanau.  O ganlyniad i newidiadau munud  olaf, o bryd i’w gilydd mae ganddynt fwyd dros ben, a gan ei fod yn fwyd ffres o’r oergell mae yna berygl y gallai mynd yn wastraff gan mai byr yw’r oes silff.

Mae Zorba wedi bod yn rhoi i FareShare Cymru ers Awst 2021 gan eu bod yn credu mai cynnig eu stoc dros ben i elusen yw’r peth cywir i wneud.  Mae FareShare Cymru wedyn yn dosbarthu’r bwyd i dros 170 o grwpiau bwyd cymunedol ledled De Cymru.

Mae’n ein helpu i leihau’n gwastraff ar leoliad, ond hefyd mewn oes lle mae yna gymaint o bryderon byd-eang, mae gwneud daioni yn dod yn bwysicach fyth. Roedd e’n teimlo fel synnwyr cyffredin! Mae FareShare yn gwneud swydd arbennig yn troi problem amgylcheddol yn ddatrysiad.
Jacques Tasker, SWYDDOG MASNACHOL GWEITHREDOL, Zorba Delicacies

Mae’n gas gan FareShare Cymru weld bwyd yn cael ei wastraffu, felly rydym yn croesawu pob trafodaeth am sut y gallwn ei wneud mor hawdd â phosib i gyfrannu bwyd.  Ar hyn o bryd mae’n Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru ar gael i gynorthwyo ag unrhyw gostau ychwanegol.

Yr hyn sy’n gwneud FareShare mor dda i weithio gyda nhw yw eu bod yn gwneud y broses gyfrannu stoc dros ben mor hawdd.  Pan mae gennym stoc ar gael ar gyfer ei roi, ynghyd â’u staff cyfeillgar, rydym yn trefnu amser casgliad i un o’u faniau oergell ddod i’w gasglu yn rhad ac am ddim.
Jacques Tasker, SWYDDOG MASNACHOL GWEITHREDOL, Zorba Delicacies

Yn ogystal â helpu rhwystro stoc dros ben rhag mynd i safleoedd tirlenwi, mae perthynas Zorba gyda FareShare Cymru yn boblogaidd gyda’u staff a chwsmeriaid.  Mae codi moral staff yn rheswm pam mae busnesau bwyd yn cael budd o gefnogi achosion da.  (Sefydliad Cymorth i Elusennau)

Mae FareShare Cymru yn ddiolchgar am y bwyd sy’n cael ei gyfrannu gan Zorba, sy’n ein helpu i fwydo miloedd o bobl fregus bob mis.  Rydym yn gobeithio y bydd ein perthynas yn parhau er mwyn ein galluogi i daclo gwastraff bwyd a newyn gyda’n gilydd.

Allwn ni ddim argymell FareShare ddigon.  Maen nhw’n ei gwneud hi mor hawdd i fusnesau fel ni wneud daioni, heb i ni fod ar ein colled o gwbl.
Jacques Tasker, SWYDDOG MASNACHOL GWEITHREDOL, Zorba Delicacies

The post Danteithion Zorba yn gwneud lles appeared first on FareShare Cymru.

Microlysiau llawn maeth yn cael eu rhoi i elusen diolch i Gronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru
Mae fferm fach wedi helpu pobl fregus i gadw’n iach gan roi eu microlysiau dros ben i FareShare Cymru.

Fferm drefol fach yw Micro Acres Wales, wedi’i sefydlu’r tu allan i Bontypridd; a ddechreuodd dyfu microlysiau yn 2021.  Mae microlysiau yn llawn maeth, yn ffynhonnell llawn fitaminau, mineralau a gwrthocsidyddion sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer nifer o bethau, fel salad, brechdanau ac i addurno prydau bwyd.

Dechreuodd Micro Acres Wales pan dderbyniodd un o’r sylfaenwyr, Chris, ddiagnosis o’r cyflwr niwrolegol prin ‘Ataxia’.  Ynghyd â’i bryderon iechyd, fe ysbrydolodd ei deulu o fwytawyr ffyslyd e i ddefnyddio’i ‘fysedd gwyrdd’ a dechreuodd dyfu microlysiau i wneud yn siŵr bod y teulu’n bwyta bwyd llawn maeth.

Mae Micro Acres Wales nawr yn darparu microlysiau i gwsmeriaid preifat, cogyddion, cwmnïau arlwyo, delis a chaffis.  Maen nhw hefyd wedi dechrau mynychu marchnadoedd ffermwyr, sy’n golygu bod ganddynt fwyd dros ben ar adegau.

Fel busnes sy’n tyfu gydag ethos cadarn o gynaliadwyedd yn graidd iddo, roedd Micro Acres Wales eisiau lleihau eu lefelau gwastraff, a sicrhau bod y microlysiau yn cael eu defnyddio.

Ar ôl cysylltu â FareShare Cymru, fe archwilion ni’r syniad o ddefnyddio Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru i’w gwneud hi’n gost-niwtral iddyn nhw gyfrannu eu microlysiau, gan ddarparu cynnyrch llawn maeth ar gyfer eu rhannu yn ein rhwydwaith.  Roedd FareShare Cymru yn gallu ad-dalu’r costau ynghlwm â chynaeafu’r microlysiau, a chostau pacio’r microlysiau mewn cyflwr ‘parod i’w dosbarthu’.

“Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi gallu rhoi’n cynnyrch dros ben i ddefnydd da, ac mae cael mynediad i Gronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru wedi bod yn amhrisiadwy.  Fel cwmni sy’n tyfu, mae angen i ni gael cydbwysedd rhwng gwneud yr hyn sy’n gyfrifol yn gymdeithasol gyda rheoli’n costau ac alldaliadau ein hun.   Mae Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru yn ein galluogi ni i sicrhau pan dydy’n microlysiau ni ddim yn fasnachol hyfyw bellach, neu’n dod tuag at ddiwedd eu hoes, ond yn berffaith ddiogel i fwyta, eu bod nhw’n gallu gwneud llawer o ddaioni i bobl fregus.”
DONNA GRAVES, CYD SYLFAENYDD MICRO ACRES WALES

“Rydyn ni yn FareShare Cymru yn cydnabod pa mor hanfodol yw e bod gan bobl fynediad at lysiau a chynnyrch ffres fel rhan o’u deiet.  Yn anffodus, mae cymunedau bregus yn aml yn gweld y rhain fel y pethau caletaf i gael mynediad atynt.  Rydym wrth ein bodd i allu gweithio gyda Micro Acres Wales i sicrhau bod eu microlysiau yn ychwanegu maethynnau hanfodol i ddeiet ein rhwydwaith o aelodau ledled Cymru.”
SARAH GERMAIN, PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL FARESHARE CYMRU

I ddarganfod sut y gallwch chi ei wneud yn gost-niwtral i roi bwyd dros ben eich busnes gan ddefnyddio Cronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru, cliciwch yma.

The post Microlysiau llawn maeth yn cael eu rhoi i elusen diolch i Gronfa Bwyd Dros Ben ag Amcan Cymru appeared first on FareShare Cymru.

Rhoddion gan Gyllid MotoNovo a Fruitful Office
Hoffwn ddweud diolch enwawr i Gyllid MotoNovo a Fruitful Office sydd wedi bod yn rhoi ffrwythau i FareShare Cymru ers Medi 2021.

Mae cwmni Fruitful Office yn dosbarthu ffrwythau i swyddfeydd ledled y DU.  Pan gaeodd llefydd gwaith achos y pandemig, gofynnodd rhai o’r cleientiaid fel Cyllid MotoVoto, sydd yng Nghaerdydd, bod eu dosbarthiadau yn cael eu cyfeirio at bobl mewn angen.

Mae FareShare Cymru wedi derbyn 1,440 darn  ffrwyth yr wythnos wedi’u rhoi gan Gyllid MotoNovo ac wedi’u hail-ddosbarthu i 150 o elusennau a phrosiectau cymunedol yn Ne Cymru. Mae’r ffrwythau wedi’u mwynhau mewn llefydd fel clybiau plant, hosteli digartref a llochesau.

“Does gan nifer  o’n defnyddwyr gwasanaeth ddim mynediad hawdd at fwyd, yn enwedig ffrwythau a llysiau.  Weithiau, nid yw ffrwythau’n flaenoriaeth wrth fwydo teulu, ond maen nhw dal yn bwysig.  Ein targed yw bod ein haelodau elusen yn derbyn ffrwythau a llysiau bob wythnos,  ac mae’r rhoddion hyn yn ein helpu i gyrraedd y nod hwn.”
Katie Padfield, Pennaeth Datblygu, FareShare Cymru

The post Rhoddion gan Gyllid MotoNovo a Fruitful Office appeared first on FareShare Cymru.

Perthynas amhrisiadwy gyda Grŵp Bwyd 2 Sisters
Yn FareShare Cymru, rydyn ni’n derbyn bwyd gan archfarchnadoedd cenedlaethol a chynhyrchwyr Cymreig.  Mae’n partneriaid bwyd yn bwysig inni gan fod bwyd lleol yn golygu llai o filltiroedd bwyd.  Maen nhw’n darparu llif cyson inni o fwydydd o ansawdd da.  Weithiau dyna’r unig fath o goginio cartref mae’n haelodau elusen yn ei dderbyn mewn wythnos.

Mae Grŵp Bwyd 2 Sisters, o Rogerstone, De Cymru, wedi bod yn gweithio gyda FareShare Cymru ers dechrau 2021.  Nhw yw un o lwyddiannau mawr byd busnes Prydain yr 20 mlynedd diwethaf.  Mae dros 5,000 o gydweithwyr o 36 o genhedloedd yn llwyddo i greu amrediad eang o rai o fwydydd gorau Prydain – o gyw iâr i bitsa, peis a phrydau parod a chawl.  Dechreuodd Grŵp Bwyd 2 Sisters ar raddfa fach iawn yn y 1990au cynnar.  Maen nhw wedi tyfu i fod yn un o gwmnïoedd cynhyrchu bwyd mwyaf Ewrop, sy’n cynhyrchu bwyd o ansawdd da iawn am bris arbennig o deg.

Mae’r cyfraniad i’n darpariaeth bwyd oer wedi bod yn amhrisiadwy.

Yn ddelfrydol, ddwywaith yr wythnos, rydyn ni’n newid trywydd ein taith ddosbarthu i gasglu cynhyrchion dros ben, ac yn eu trosglwyddo i’n warws.  Caiff y bwyd ei dderbyn gan ein tîm, ei drefnu gan ein gwirfoddolwyr ac yna’i ddanfon allan gyda’n harchebion bwyd, sy’n golygu bod y bwyd yn ffres pan mae’n cyrraedd yr ysgolion, elusennau a grwpiau cymunedol a gefnogwn.

Diolch i Grŵp Bwyd 2 Sisters, Rogerstone, rydyn ni’n gobeithio y gall ein perthynas barhau.

The post Perthynas amhrisiadwy gyda Grŵp Bwyd 2 Sisters appeared first on FareShare Cymru.