Katie Leslie, Author at FareShare Cymru
Cyfarfod ein gwirfoddolwr Meurig
Bu i Meurig ymuno gydag ein tîm gwirfoddoli yn FareShare Cymru oddeutu mis yn ôl ac mae o’n gwirfoddoli 1 dydd yr wythnos ar hyn o bryd ond mae’n fwy na bodlon cynnig mwy o’i amser os oes angen! Fe ymunodd ar ddiwedd yr haf pan roedd angen mwy o wirfoddolwyr ar FareShare Cymru gan fod sawl un o’r rheiny oedd wedi ymuno gyda ni dros yr haf wedi dychwelyd i’r gwaith. Fe glywodd am y cyfle drwy hysbysebion y Co-op a meddyliodd y buasai’n mwynhau’r profiad.
Mae Meurig wedi ‘ymddeol yn rhannol’ ac mae’n gweithio fel ymgynghorydd llawrydd ac yn gwneud gwaith DIY ymysg pethau eraill yn ei amser rhydd. Aeth Meurig ati i wirfoddoli oherwydd roedd yn dymuno cymdeithasu a chyflawni gwaith a fyddai o fudd i’r gymuned.
“Rydw i’n meddwl ei fod yn bwysig iawn ymwneud â gwahanol grwpiau o bobl er lles eich lles meddyliol. Roeddwn i hefyd yn dymuno cynnig rhywbeth yn ôl i’r gymuned a helpu codi ysbryd y gymuned. O ganlyniad, roeddwn i’n meddwl y buasai gwirfoddoli gyda FareShare Cymru yn ddelfrydol imi.’
Mae Meurig yn gweithio fel un o’n gyrwyr cludo bwyd lle mae gofyn iddo gludo paledi bwyd i aelodau bwyd cymunedol unigol. Yn ogystal, mae gofyn i’r gyrwyr gludo bwyd i’r mannau casglu lleol, fel yr un yn Abertawe lle mae sawl mudiad yn cwrdd i gasglu cyflenwadau bwyd a’i ddosbarthu.
Dywedodd “Rydw i wir yn mwynhau’r rôl gan fy mod yn hoff o yrru ac mae’n gyfle imi ddysgu mwy am FareShare fel mudiad” Mae’n crybwyll ei fod hefyd yn awyddus i roi cynnig ar y wagen fforch godi felly fe gawn ni weld beth a ddaw!
O ran COVID-19, mae Meurig yn dweud ei fod yn teimlo’n ddiogel iawn yn storfa a phan mae’n mentro allan yn y fan gan fod masgiau’n orfodol ac mae digonedd o hylif diheintio a mesurau diogelu eraill ar waith yn y pencadlys.
Diolch yn fawr iawn Meurig am ymuno gyda ni a chyflawni gwaith penigamp!
The post Cyfarfod ein gwirfoddolwr Meurig appeared first on FareShare Cymru.
Barn Sue am wirfoddoli yn ystod COVID
Bu Sue yn gwirfoddoli ar ran FareShare ers Ionawr 2019. Bu iddi ymuno â’r tîm yn dilyn sgwrs gyda’i merch dros gyfnod y Nadolig am wastraff bwyd a phwysigrwydd helpu’r gymuned. Mae Sue yn gwirfoddoli unwaith yr wythnos ac mae hi’n gyfrifol am waith gweinyddol FareShare Cymru gan gyflawni tasgau fel diweddaru anfonebau gyda chyfeiriadau danfon y bwyd a faint gaiff ei anfon, gwirio dyddiadau bwyd dros ben a threfnu eitemau yn y warws.
‘Pan wnes i ymddeol, roeddwn i’n dymuno treulio fy amser rhydd yn ddoeth. Roedd gen i ddiddordeb yn y rôl weinyddol ac roeddwn i’n meddwl y buasai’n swydd foddhaus imi hefyd.’
Drwy gydol y pandemig, bu i Sue barhau i wirfoddoli a bu hi’n aelod amhrisiadwy o’r tîm.
‘Roeddwn i wrth fy modd yn gwirfoddoli drwy gydol y cloi mawr oherwydd roedd yn sicrhau strwythur i fy wythnos ac yn fy nenu o’r tŷ am reswm gwerth chweil’
O ganlyniad i Covid, cafodd timau’r swyddfa a’r warws eu gwahanu i sicrhau ei bod hi’n haws i gadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, roedd hyn yn golygu nad oedd Sue yn cydweithio gyda chymaint o bobl ag arfer a chwrdd â llawer o wynebau newydd. Llwyddodd FareShare i ddenu nifer helaeth o wirfoddolwyr newydd yn ystod y cloi mawr oherwydd roedd pobl yn awyddus i helpu mewn unrhyw ffordd ac roedd gan bobl fwy o amser i wirfoddoli o ganlyniad i’r cynllun cadw swyddi neu weithio o adref.
‘Fe ges i gyfle i gydweithio gyda nifer o bobl ddifyr dros ben o athrawon i guraduron amgueddfeydd na fyddai wedi meddu ar yr amser i wirfoddoli neu wedi meddwl am wirfoddoli fel arall.’
Diolch yn fawr Sue am dy holl waith caled ac am ein cynorthwyo ni, yn enwedig yn ystod y pandemig. Rydym wir yn gwerthfawrogi’r holl waith yn y gorffennol a’r presennol ar ran FareShare Cymru!
The post Barn Sue am wirfoddoli yn ystod COVID appeared first on FareShare Cymru.
Wythnos y Gwirfoddolwyr 2020 (Mehefin y 1af – 7fed)
Yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr, fe hoffem estyn diolch i ein gwirfoddolwyr am weithio’n ddiwyd yn ein warws gan rannu ychydig o straeon ein gwirfoddolwyr. Heb ein gwirfoddolwyr, fe fyddai’n amhosib inni gyflawni ein gwaith. Y gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am dderbyn y bwyd, trefnu’r bwyd, pacio archebion a chludo bwyd i elusennau a grwpiau cymunedol yn Ne Cymru. Bu inni recriwtio toreth o wirfoddolwyr newydd yn ystod y pandemig COVID-19. Roedd yn rhaid i sawl un o’n gwirfoddolwyr roi gorau i’w gwaith am gyfnod felly roedd digonedd o amser ganddyn nhw i ymuno a gwirfoddoli gyda ni.
Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn gyfle inni estyn diolch mwy fyth i ein holl wirfoddolwyr. Heb y gwirfoddolwyr, byddai’n amhosib inni barhau gydag ein gwaith. Mae ein gwirfoddolwyr yn mynd tu hwnt i’r galw pob dydd fel bod modd inni helpu bwydo’r rheiny sydd fwyaf mewn angen yn Ne Cymru gyda’n gilydd.
EIN SWYDDOG GWIRFODDOLI
Mae Jude yn dylunio ac yn creu gemwaith cynaliadwy sydd wedi’u gwerthu mewn siopau amgueddfeydd fel y Tate Modern yn ogystal â nifer o orielau a siopau annibynnol ledled Prydain. Yn sgil y feirws, roedd yn rhaid iddi ganslo ei chwrs gemwaith cyfredol a gohirio unrhyw gyrsiau newydd am gyfnod amhenodol. Mae’r orielau a’r siopau mae hi’n gwerthu ei gemwaith ynddyn nhw wedi cau felly mae hi’n eithaf distaw o ran creu gemwaith hefyd.
Mae pethau wedi distewi iddi o ran gwaith yn sydyn, ond fel mae hi’n dweud, mae hi’n iach ac yn gallu helpu eraill sydd mewn gwaeth sefyllfa na hi. Fe welodd hi hysbyseb ar ei grŵp Facebook lleol ar gyd-gymorth yn dweud bod angen gwirfoddolwyr arnom ni. Fe feddyliodd y byddai’n gyfle perffaith gan fod modd iddi helpu eraill a lleihau gwastraff  – “dau achos arbennig”.
Fe benderfynodd Sam gychwyn gwirfoddoli gan ei fod yn chwilio am rywbeth fyddai’n ei ysgogi i adael y tŷ. Mae Sam wrthi yn chwilio am waith ar hyn o bryd ond fe fu’n anodd iawn oherwydd y pandemig. Ar wahân i wirfoddoli gyda FareShare, fe benderfynodd dreulio’i amser yn gwirfoddoli gyda’r Fenter Tiwtora Coronafeirws gan ddysgu cemeg a mathemateg ar-lein yn ogystal â thiwtora safonol ar Tutorful.
“Wnaeth FareShare ddal fy sylw gyda’u buddion cymdeithasol ac amgylcheddol. Fe wnes i ymuno cyn y cloi mawr ac rydw i’n falch iawn o gyfrannu mewn cyfnod lle mae gwaith FareShare yn fwy hanfodol fyth. Bu’n brofiad hwyl a gwerthfawr. Rydw i wir wedi mwynhau bwrw iddi ar ddiwrnod prysur ac mae’n help i dynnu’ch meddwl oddi ar ddigwyddiadau  ehangach.”
Bu Nicole yn chwilio am rywle i wirfoddoli ynddo ers tro, yna pan gyrhaeddodd y pandemig, roedd yn rhaid iddi roi’r gorau i weithio ac roedd ganddi ddigonedd o amser rhydd i allu mynd ati i wirfoddoli. Mae hi’n wneuthurwr propiau a gwisgoedd i’r theatr a digwyddiadau eraill, gan gynnwys perfformiadau byw Katy Perry. Mae’r holl ddigwyddiadau hynny wedi’u gohirio am y tro.
Mae hi’n dweud ei bod hi wrth ei bodd yn gwirfoddoli ac mae pawb yn gyfeillgar dros ben. “Mae’n gyfle imi gadw’n brysur ac mae heb os wedi fy helpu i sicrhau cydbwysedd yn fy mywyd ar hyn o bryd. Mae hefyd yn braf gwybod fy mod i’n helpu mymryn i sicrhau bod bywydau trigolion yr ardal yn haws drwy’r pandemig hefyd. Mae’n ffordd foddhaus o dreulio fy amser”
Mae Jane yn artist ac mae ganddi stiwdio fach i greu cerfluniau a chynnal gwaith ymchwil ynddi fel arfer. Mae’r gofod hwnnw wedi cau yn ystod y pandemig felly fe fu hi’n canolbwyntio ar weithgareddau creadigol eraill fel ysgrifennu, barddoniaeth a thynnu llun yn ogystal â thyfu bwyd.
Dywedodd bu’r profiad o wirfoddoli gyda FareShare yn werthfawr iawn a’i bod yn mwynhau gyrru’r fan cludo bwyd i elusennau a grwpiau cymunedol ledled De Cymru, natur gorfforol y gwaith a chwmni unigolion tebyg iddi sydd hefyd yn credu’n gryf yn ein gwaith.
Diolch o galon i’n holl wirfoddolwyr am eu gwaith diwyd pob wythnos. Os ydych chi’n gwirfoddoli gyda ni ac yn dymuno rhannu eich stori, e-bostiwch jon@fareshare.cymru!
The post Wythnos y Gwirfoddolwyr 2020 (Mehefin y 1af – 7fed) appeared first on FareShare Cymru.
Dewch i ddarganfod beth mae ‘Women Connect First’ yn ei wneud
Mae Women Connect First (WCF) yn elusen sy’n gweithio i rymuso Merched Croenddu ac o gefndir Ethnig Lleiafrifol yng Nghaerdydd a De-ddwyrain Cymru sy’n profi amddifadedd, gwahaniaethu a gwaharddiad. Maen nhw’n cynnig nifer o wahanol wasanaethau, cefnogaeth a gweithgareddau i wella eu bywoliaeth a datblygu sgiliau cyflogadwyedd. Ymysg prosiectau eraill mae WCF yn cynnal gwahanol ddosbarthiadau gan gynnwys TG, coginio a gwersi Saesneg. Maen nhw’n rhedeg llinell gymorth, gofal plant, gweithdai celf a llawer mwy!
O dan amgylchiadau arferol, roedd WCF yn rhedeg eu prosiect ‘World Café on Wheels’, sef cegin gymunedol sydd ar agor ar ddydd Gwener. Byddai gwirfoddolwyr yn dod i mewn am ambell awr, coginio llawer o fwyd ac yna’n ei rannu gyda’r cyhoedd. Roedd hyn yn rhoi cyfle i bawb gysylltu a chymdeithasu dros fwyd maethlon, fforddiadwy oedd wedi’i goginio’n ffres. Roedd hefyd yn rhoi cyfle i’r gwirfoddolwyr ddatblygu eu sgiliau coginio, derbyn hyfforddiant arlwyo a rhoi hwb i’w cyflogadwyedd.
Yn ystod COVID bu iddyn nhw ddechrau’r prosiect ‘Wales Community Café on Wheels’ gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae a wnelo â choginio prydau iach a maethlon yn ddyddiol a’u danfon i’r bobl fwyaf bregus yn y gymuned. Mae’r ‘Wales Community Café on Wheels’ yn bennaf yn cefnogi’r henoed a phobl anabl, y maen nhw wedi bod yn eu cefnogi ers mis Tachwedd ac am barhau i wneud hynny nes diwedd y prosiect. Maen nhw hefyd yn cefnogi nifer o bobl iau, fel arfer ar sail tymor byrrach, yn bennaf y rheiny oedd yn rhaid iddyn nhw hunanynysu oherwydd Covid neu’r rhai sy’n gwella o’r feirws.
Yn rhan o’r tîm mae 6 aelod o staff: cydlynydd prosiect, cynorthwyydd prosiect, gyrrwr danfoniadau a 3 chogydd (gwirfoddolwyr yn flaenorol ond bellach yn aelodau o staff), yn ogystal â 4 gwirfoddolwr sy’n helpu gyda’r danfoniadau. Maen nhw’n coginio pryd 3 chwrs i’w buddiolwyr. Mae’r cwrs cyntaf yn cynnwys cwpanaid o gawl sy’n amrywio bob dydd, er enghraifft, cawl llysiau cymysg, cawl madarch neu gawl ffacbys. Gall y prif gwrs fod yn unrhyw beth o wahanol fathau o gyrri (Indiaidd, Bangladeshaidd, Thai) reis a phrydau gyda cwscws, llysiau wedi’u rhostio a chig i brydau pasta. Pwdin fel arfer ydy ffrwythau ffres, cacen gartref, iogwrt neu salad ffrwythau. Caiff popeth ei goginio o’r dechrau a’u gwneud gyda chynhwysion ffres.
Bu i WCF ddechrau gyda FareShare tua 6 wythnos yn ôl i gefnogi eu prosiect Wales Community Café on Wheels ac maen nhw’n derbyn danfoniad wythnosol ar hyn o bryd.
‘Rydym yn derbyn danfoniad gan FareShare ar ddydd Iau ac rydw i’n neilltuo ychydig amser i feddwl am ryseitiau newydd i gynnwys yr holl gynnyrch ffres rydym ni’n ei dderbyn. Mae hyn yn wych oherwydd mae’n rhoi amrywiaeth i bobl ac maen nhw’n gallu blasu pethau fuasen nhw ddim fel arfer yn eu bwyta. Rydym ni bob tro yn defnyddio 100% o beth rydym ni’n ei gael gennych chi a does dim yn cael ei wastraffu’
‘Mae’r bwyd gan FareShare yn ein caniatáu inni weithiau roi ychydig yn fwy i bobl na beth fuasen ni fel arfer yn ei gynnwys, er enghraifft, pryd bach ochr ychwanegol neu fwy o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau yn eu prydau.’
Maen nhw’n amrywiol iawn ac yn addasu ar gyfer gofynion dietegol a diwylliannol eu buddiolwyr, ac mae’r consensws cyffredinol ar y prydau bwyd yn gadarnhaol iawn.
‘Mae ein buddiolwyr yn gwerthfawrogi popeth ac anaml iawn ydyn ni’n derbyn unrhyw gŵyn. Mae pobl wrth eu boddau gydag unrhyw beth ffres, maethlon ac wedi’i wneud gartref.’
Mae’r gwelliant yn iechyd y buddiolwyr hefyd i’w weld ac mae’n amlwg bod y prydau wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.
‘Heb hyn ni fuasai llawer ohonyn nhw’n gallu cael pryd poeth, wedi’i wneud yn ffres bob dydd. Roedd nifer o’r bobl rydym ni’n eu cefnogi yn dioddef o ddiffyg maeth cyn inni ddechrau eu cefnogi nhw. Ers inni weithio gyda nhw mae eu hiechyd wedi gwella ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n teimlo’n llawer gwell, yn edrych yn well a chyda llai o broblemau iechyd. Mae’n wirioneddol wych!’
Mae aelodaeth WCF gyda FareShare wedi caniatáu iddyn nhw stopio gorwario eu cyllideb bwyd gan eu bod yn derbyn cynnyrch ychwanegol er mwyn ei gwneud hi’n bosibl gwneud y pryd 3 chwrs sylweddol.
‘Mae bod gyda FareShare yn bendant yn arbed arian inni. Mae’r bwyd o ansawdd dda iawn ac yn aml yn organig. Mae gwerth yr eitemau rydym ni’n eu derbyn fel arfer yn uwch na danfoniadau eraill rydym ni’n eu cael ac rydym ni fel arfer yn derbyn danfoniad wythnosol gwerth 4 gwaith beth rydym ni’n ei dalu’n fisol sy’n wych.’
Pan gaiff y prydau eu danfon mae WCF hefyd yn ceisio cysylltu a chymdeithasu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Maen nhw’n edrych ar ôl eu buddiolwyr, gwneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn, rhoi sicrwydd iddyn nhw nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ac yn eu cefnogi nhw mewn sawl gwahanol ffordd.
‘Nid yn unig coginio a danfon ydym ni’n ei wneud. Rydym ni’n cysylltu gyda nhw ac yn eu cefnogi nhw hefyd’
Buasai WCF wrth eu boddau yn parhau gyda FareShare ar ôl y pandemig ond bydd yn dibynnu ar eu harian nawdd. Maen nhw’n gobeithio estyn y prosiect, gwneud y gegin yn fwy ar ryw bwynt a dechrau rhedeg shifft yn y bore a’r prynhawn er mwyn cynyddu faint o brydau maen nhw’n ei wneud mewn diwrnod o 40 i 80.
Rydym ni’n falch iawn o fod yn cefnogi WCF a Wales Community Café on Wheels. Maen nhw’n gwneud pethau arbennig i’r gymuned ac yn gwneud prydau ffres, iach a maethlon i’w buddiolwyr sydd mor wych i’w weld!
The post Dewch i ddarganfod beth mae ‘Women Connect First’ yn ei wneud appeared first on FareShare Cymru.