{"id":2228,"date":"2022-01-11T12:00:16","date_gmt":"2022-01-11T12:00:16","guid":{"rendered":"https:\/\/fareshare.cymru\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/"},"modified":"2022-01-17T11:36:11","modified_gmt":"2022-01-17T11:36:11","slug":"mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/","title":{"rendered":"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10!"},"content":{"rendered":"\n<p>\u2018Rydyn ni mor falch ein bod wedi brwydro gwastraff bwyd a newyn ers 10 mlynedd! <\/p>\n\n\n\n<p>Wythnos ddiwethaf fe ddathlon ni ein pen-blwydd yn 10 oed gan groesawu gwesteion i\u2019n warws am adloniant, bwyd a chyfle i ddarganfod mwy am yr hyn \u2018ry\u2019n ni\u2019n ei wneud.  Cawsom hefyd brofi eirlaw, glaw a rhybudd tywydd melyn am wynt, ond nid oedd hyn yn rhwystr i ni!  <\/p>\n\n\n\n<p>Roedd teithiau o amgylch y warws wedi\u2019u trefnu drwy gydol y dydd, gyda chyfle i\u2019r gwesteion weld ein storfeydd ac oergelloedd, a gofyn cwestiynau i\u2019n staff.  Er ein bod wedi amcangyfrif tua 10 munud y daith, roedd y gr\u0175p cyntaf wedi cael modd i fyw gyda Dan, un o\u2019n Rheolwyr Gweithrediadau Cynorthwyol, ac yn dal i fod yn siarad awr yn ddiweddarach!  <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"851\" src=\"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Dan-tour-warehouse-2-1-1200x851.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2045\" srcset=\"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Dan-tour-warehouse-2-1-1200x851.png 1200w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Dan-tour-warehouse-2-1-600x426.png 600w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Dan-tour-warehouse-2-1-768x545.png 768w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Dan-tour-warehouse-2-1-1536x1090.png 1536w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Dan-tour-warehouse-2-1.png 1748w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l y teithiau roedd yna berfformiad cerddorol wedi\u2019i drefnu gan un o\u2019n gwirfoddolwyr, Nick Whiting. Pan nad yw e\u2019n gwirfoddoli gyda ni, Nick yw arweinydd cysylltiol a ffidil gyntaf  Cerddorfa Genedlaethol Cymru&#8217;r BBC.  Trefnodd Nick berfformiad ar y cyd gyda\u2019i gyd-wirfoddolwyr David Simpson and Glyn Price. Rhaid diolch hefyd i Beverley Wescott, Angharad Jones, Heather Thomas and Phil Pinder am eu rhan.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"10th Anniversary Musical Performance\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/pzyB_DeVSv4?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Cafodd ein cinio ei ddarparu\u2019n garedig iawn gan Beca Lyne Pirkis y cogydd Cymreig a\u2019r cyflwynydd a gyrhaeddodd rownd gynderfynol  GBBO 2013. Daeth Beca i ymweld \u00e2\u2019r depo ychydig ddiwrnodau cyn y dathliad i gael ei hysbrydoliaeth ar gyfer y pryd, gan ddewis eitemau dros ben i wneud Cawl Fegan Libaneaidd.  Roedd yr adborth yn arbennig o dda gyda nifer o westeion yn rhyfeddu at yr hyn y gallwch chi ei wneud \u00e2 thun o ffacbys!  Allwn ni ddim diolch digon i Beca am ei help, ac am y gacen fendigedig y gwnaeth hi hefyd.  <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"851\" src=\"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Beca-Lyne-Pirkis-cake-2-1-1200x851.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2050\" srcset=\"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Beca-Lyne-Pirkis-cake-2-1-1200x851.png 1200w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Beca-Lyne-Pirkis-cake-2-1-600x426.png 600w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Beca-Lyne-Pirkis-cake-2-1-768x545.png 768w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Beca-Lyne-Pirkis-cake-2-1-1536x1090.png 1536w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Beca-Lyne-Pirkis-cake-2-1.png 1748w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p><em>Pan ddechreuon ni FareShare Cymru 10 mlynedd yn \u00f4l, roedden ni\u2019n gwybod ei fod yn syniad da oedd yn gwneud synnwyr ac oedd ei angen yng Nghymru.  Roedd yna fwyd da yn mynd yn wastraff ac roedd mudiadau a phobl a oedd angen bwyd.  Roedden ni am newid hynny.  10 mlynedd yn ddiweddarach ac mae\u2019r gwahaniaeth mae FareShare Cymru wedi\u2019i wneud yn anghredadwy.  Diolch enfawr i bawb sydd wedi\u2019n helpu i gyflawni gymaint.<\/em><\/p><cite>Sarah Germain, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol FareShare Cymru<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ein Hanes:<\/h2>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"800\" src=\"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Opening-1200x800.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2052\" srcset=\"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Opening-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Opening-600x400.jpg 600w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Opening-768x512.jpg 768w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Opening-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/FareShare-Cymru-Opening-2048x1365.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><figcaption>Lansio Fareshare Cymru \r\n23.01.12\r\n\u00a9Steve Pope<\/figcaption><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Fe ddechreuon ni gyda grant o \u00a31000 gan Amgylchedd Cymru (sydd ddim yn bodoli bellach, yn anffodus) Fe alluogodd hyn inni wneud galwadau ff\u00f4n, talu am gostau postio a phamffledi i ledu\u2019r gair am yr hyn roedden ni\u2019n ceisio\u2019i wneud.  <\/p>\n\n\n\n<p>I ddechrau, dim ond 2 aelod o staff oedd yna.  Dechreuon ni gan ail-ddosbarthu 2 dunnell o fwyd yn unig yn ein mis cyntaf (Gorffennaf 2011).  Roedd gennym ni 4 aelod bwyd cymunedol a llai na 6 gwirfoddolwr ac roedden ni\u2019n gweithio yng Nghaerdydd a Chasnewydd yn unig.    <\/p>\n\n\n\n<p>Yn y blynyddoedd cynnar roedden ni\u2019n ei chael hi\u2019n anodd cael ffrwythau a llysiau ffres, a phenderfynodd gr\u0175p o gyn-aelodau, oedd wedi bod ar leoliad \u00e2 ni, sefydlu rhandir yn 2012-13 i\u2019n helpu ni i gwrdd \u00e2\u2019r angen&#8230;fe barodd ychydig o flynyddoedd.  <\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2013\/14, fe groesawon ni ein 3ydd aelod i\u2019r t\u00eem a dechrau lledaenu\u2019n gafael \u2013 gan gychywn dosbarthu yn Nhorfaen yn ogystal \u00e2 dechrau dod yn rhan o\u2019r hyn a elwir yn Bwyd Caerdydd erbyn heddiw. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2016, fe gyrhaeddon ni garreg filltir bwysig, sef ail-ddosbarthu digon i fwyd i gyfrannu at filiwn o brydau bwyd.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r nawdd a sicrhaodd y rhwydwaith gyda chymorth  FareShare&#8217;r DU yn 2018 wedi\u2019n helpu i  dyfu\u2019n gyflym.  Galluogodd y nawdd gan ASDA a\u2019r Loteri Genedlaethol ni i gyflogi mwy o aelodau staff &#8211; gan dyfu\u2019r t\u00eem i 6.  Golygodd hyn ein bod ni\u2019n gallu cynyddu\u2019n cyrraedd i ardaloedd Rh.C.T, Caerffili, Pen-y-bont a Bro Morgannwg.   <\/p>\n\n\n\n<p>Erbyn 2019-20, roedden ni\u2019n 7 aelod o staff ac wedi lledaenu i Ferthyr Tudful, Abertawe, Castell Nedd Port Talbot a Blaenau Gwent.  Golygodd hyn ein bod ni\u2019n gallu cymryd mwy o fwyd a dechreuon ni agor ar ddyddiau Sadwrn a Gwyliau Banc.  <\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd 2020 ei dominyddu gan y pandemig.  Rydyn ni\u2019n hynod falch o\u2019n staff a gwirfoddolwyr am eu holl waith caled er mwyn sicrhau ein bod ni\u2019n dosbarthu bwyd i\u2019r llefydd oedd ei angen.  Rydyn ni\u2019n gwybod bod hyn wedi bod yn anodd.  Fe ddyblon ni mewn maint, gan dyfu ar raddfa llawer cyflymach nag oedden ni wedi cynllunio gwneud, o ganlyniad i dwf yn y galw.  Fe dyfodd nifer y mudiadau roedden ni\u2019n eu cefnogi o 53  yn ystod 3 mis cyntaf y pandemig. Cawson ni\u2019n gwirioni gan haelioni pobl wrth wirfoddoli o\u2019u hamser hefyd, ac fe dyfodd niferoedd yn uwch nag erioed.   Fe weithion ni hefyd gyda Llywodraeth Cymru, FareShare&#8217;r DU a FareShare Glannau\u2019r Mersi i weithredu ymateb i argyfwng yng Ngogledd Cymru, a gyda\u2019r Groes Goch yng Ngorllewin Cymru.   <\/p>\n\n\n\n<p>Gyda hyn i gyd, fe lwyddon ni i ail-ddosbarthu digon o fwyd i gyfrannu at 2.8 miliwn o brydau bwyd y llynedd.  <\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi  <\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>arbed dros 4947 tunnell o fwyd rhag mynd yn wastraff  <\/li><li>cyfrannu at dros 13.5 miliwn o brydau bwyd  <\/li><li>mae 1000 o wirfoddolwyr wedi rhoi dros 95 mil o oriau   <\/li><li>arbed dros \u00a35 miliwn i\u2019r trydydd sector  <\/li><li>cefnogi dros 318 o aelodau bwyd cymunedol   <\/li><li>helpu arbed tua 15,283 tunnell o allyriadau CO2<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">2021 a thu hwnt..<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n ymwybodol bod ein gwasanaeth, ers amser hir, wedi canolbwyntio ar y De-Ddwyrain a Chanol De Cymru.  Rydyn ni\u2019n gwybod bod yna alw mewn ardaloedd eraill hefyd.  Felly, ar gyfer cyfnod nesaf ein datblygiad, rydyn ni\u2019n cymryd y camau cyntaf tuag at ddatblygu FareShare ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n parhau \u00e2\u2019n partneriaeth gyda\u2019n cydweithwyr yn FareShare Glannau\u2019r Mersi i barhau i ddosbarthu a datblygu yng Ngogledd Cymru.  <\/p>\n\n\n\n<p>Eleni, rydyn ni hefyd wedi bod yn ymgymryd \u00e2 gwaith datblygu yng Ngorllewin Cymru i\u2019n galluogi ni i ddechrau dosbarthu yn yr ardal o fis Mawrth 2022.  Fe fyddwn yn dechrau yn Sir Gaerfyrddin ac yn gobeithio gweithio mewn ardaloedd eraill yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.  <\/p>\n\n\n\n<p>Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi\u2019n helpu ni i gyrraedd lle\u2019r ydyn ni heddiw.  Ni fyddai wedi bod yn bosib heblaw am ein gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, noddwyr, rhoddwyr bwyd, cefnogwyr, cynghorwyr, partneriaid ac aelodau bwyd cymunedol.  <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u2018Rydyn ni mor falch ein bod wedi brwydro gwastraff bwyd a newyn ers 10 mlynedd! Wythnos ddiwethaf fe ddathlon ni ein pen-blwydd yn 10 <\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":2055,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"_monsterinsights_skip_tracking":false,"_monsterinsights_sitenote_active":false,"_monsterinsights_sitenote_note":"","_monsterinsights_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"class_list":["post-2228","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.3 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10! - FareShare Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10! - FareShare Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"\u2018Rydyn ni mor falch ein bod wedi brwydro gwastraff bwyd a newyn ers 10 mlynedd! Wythnos ddiwethaf fe ddathlon ni ein pen-blwydd yn 10\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"FareShare Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/faresharecymru\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2022-01-11T12:00:16+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2022-01-17T11:36:11+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1707\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Katie Padfield\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@faresharecymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@faresharecymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Katie Padfield\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"6 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Katie Padfield\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/729a916443f77f8e961c1158e24dade4\"},\"headline\":\"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10!\",\"datePublished\":\"2022-01-11T12:00:16+00:00\",\"dateModified\":\"2022-01-17T11:36:11+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/\"},\"wordCount\":1067,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/12\\\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg\",\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/\",\"name\":\"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10! - FareShare Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/12\\\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg\",\"datePublished\":\"2022-01-11T12:00:16+00:00\",\"dateModified\":\"2022-01-17T11:36:11+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/12\\\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/12\\\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":1707},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10!\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/\",\"name\":\"FareShare Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/#organization\",\"name\":\"FareShare Cymru\",\"url\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/05\\\/FS-Cymru-general-use-RGB-scaled.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2021\\\/05\\\/FS-Cymru-general-use-RGB-scaled.jpg\",\"width\":2560,\"height\":929,\"caption\":\"FareShare Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/faresharecymru\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/faresharecymru\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/faresharecymru\",\"https:\\\/\\\/www.linkedin.com\\\/company\\\/faresharecymru\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/729a916443f77f8e961c1158e24dade4\",\"name\":\"Katie Padfield\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/95c63d7c4dcf152045543b913044a582b166573b38444938ea3c14388b513154?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/95c63d7c4dcf152045543b913044a582b166573b38444938ea3c14388b513154?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/95c63d7c4dcf152045543b913044a582b166573b38444938ea3c14388b513154?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"Katie Padfield\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/fareshare.cymru\\\/cy\\\/author\\\/katie-padfield\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10! - FareShare Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10! - FareShare Cymru","og_description":"\u2018Rydyn ni mor falch ein bod wedi brwydro gwastraff bwyd a newyn ers 10 mlynedd! Wythnos ddiwethaf fe ddathlon ni ein pen-blwydd yn 10","og_url":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/","og_site_name":"FareShare Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/faresharecymru","article_published_time":"2022-01-11T12:00:16+00:00","article_modified_time":"2022-01-17T11:36:11+00:00","og_image":[{"width":2560,"height":1707,"url":"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"Katie Padfield","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@faresharecymru","twitter_site":"@faresharecymru","twitter_misc":{"Written by":"Katie Padfield","Est. reading time":"6 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/"},"author":{"name":"Katie Padfield","@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/#\/schema\/person\/729a916443f77f8e961c1158e24dade4"},"headline":"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10!","datePublished":"2022-01-11T12:00:16+00:00","dateModified":"2022-01-17T11:36:11+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/"},"wordCount":1067,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg","articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/","url":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/","name":"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10! - FareShare Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg","datePublished":"2022-01-11T12:00:16+00:00","dateModified":"2022-01-17T11:36:11+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/#primaryimage","url":"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/12\/fareshare-cymru-10th-birthda-scaled.jpg","width":2560,"height":1707},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/mae-fareshare-cymru-wedi-troin-10\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Mae FareShare Cymru wedi troi\u2019n 10!"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/#website","url":"https:\/\/fareshare.cymru\/","name":"FareShare Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/fareshare.cymru\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/#organization","name":"FareShare Cymru","url":"https:\/\/fareshare.cymru\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/FS-Cymru-general-use-RGB-scaled.jpg","contentUrl":"https:\/\/fareshare.cymru\/wp-content\/uploads\/2021\/05\/FS-Cymru-general-use-RGB-scaled.jpg","width":2560,"height":929,"caption":"FareShare Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/faresharecymru","https:\/\/x.com\/faresharecymru","https:\/\/www.instagram.com\/faresharecymru","https:\/\/www.linkedin.com\/company\/faresharecymru"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/fareshare.cymru\/#\/schema\/person\/729a916443f77f8e961c1158e24dade4","name":"Katie Padfield","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/95c63d7c4dcf152045543b913044a582b166573b38444938ea3c14388b513154?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/95c63d7c4dcf152045543b913044a582b166573b38444938ea3c14388b513154?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/95c63d7c4dcf152045543b913044a582b166573b38444938ea3c14388b513154?s=96&d=mm&r=g","caption":"Katie Padfield"},"url":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/author\/katie-padfield\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2228","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2228"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2228\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2237,"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2228\/revisions\/2237"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2055"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2228"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2228"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/fareshare.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2228"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}